Mae lymffodema yn gyflwr chwyddo cronig sy’n gallu effeithio ar unrhyw ran o’r corff.

Mae astudiaethau wedi dangos fod pobl yng Ngheredigion yn haeddu a bod angen gwasanaeth lymffodema lleol arnynt yn seiliedig ar nifer y cleifion sy’n dioddef o’r cyflwr. Unrhyw adeg, gall fod tua 3% o’r boblogaeth yn dioddef naill o lymffodema cyntafol neu eilaidd.

Eto, fel ag y mae, nid oes gan gleifion fynediad i unrhyw fath o driniaeth oddi mewn i Geredigion, os nad ydynt wedi datblygu’r cyflwr yn sgìl canser ar y fron. Hyd yn oed i gleifion canser ar y fron, nid yw’r driniaeth mor dda ac y gallai fod.

Nid felly y mae yn rhan fwyaf o ardaloedd eraill Chymru. Mae Môn a Gwynedd, Wrecsam a Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych, Gogledd, De a Chanolbarth Powys , Sir Benfro, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell Nedd a Phort Talbot, a Gwent yn cynnig gwasanaeth lleol i holl gleifion lymffodema.

Gyda mynediad i glinig lymffodema, a chynhaliaeth ymarferydd lymffoedema, gall cleifion wneud llawer iawn i reoli ac ymdopi â’u cyflwr. Gall pobl sy’n dioddef o lymffodema fynd yn ddigalon iawn â’r cyflwr, ac mae teimlo nad oes triniaeth ar gael yn eu gwneud i deimlo llawer yn waeth.

Mae’r ddeiseb hon yn anelu at berswadio Llywodraeth y Cynulliad, Y bwrdd Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaeth GIG i wneud mwy i gydnabod y cyflwr hwn yng Ngheredigion, a dod â’r loteri côd post i ben ar gyfer cleifion lymffodema.

Mark Williams AS
Yr ydym ni sydd wedi arwyddo isod yn nodi fod o leiaf 100,000 o bobl yn y DU yn dioddef o  lymffodema, chwyddo cronig a all effeithio ar unrhyw ran o’r corff; yn ymwybodol y gall y cyflwr fod yn sgìl effaith trallodus o ganser a’i driniaethau, ond hefyd ei fod yn digwydd llawer yn fwy cyffredin mewn pobl nad ydynt wedi dioddef o ganser; yn nodi ymhellach, os cânt fynediad i glinig lymffodema a chynhaliaeth ymarferydd lymffodema, a gall cleifion wneud llawer i reoli eu cyflwr; yn nodi â phryder mawr fod triniaeth ar gael yn aml ond i gleifion sy’n dioddef o lymffodaema ond wedi triniaeth am ganser; yn cydnabod gwaith rhagorol Rhwydwaith Cynnal Lymffodema, sefydliad elusennol sy’n ymgyrchu dros godi proffil y cyflwr sydd â mynediad annigonol i gyllid cyhoeddus; yn galw ar y Llywodraeth yn San Steffan a Chaerdydd a Chaeredin i wneud mwy i gydnabod y cyflwr hwn, ac ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol i roi cydnabyddiaeth lawn i lymffodema yn ei holl ffurfiau, a sicrhau bod triniaeth ar gael i bob person claf ar lefel leol. 
Enw: Cyfenw:
Côd post: E-bost:
Ffôn Symudol:
Sylw:
Diweddariadau newyddion ar y rhifyn hwn?
Newyddion arall oddi wrthym ni?

Cliciwch fan yma am ddeiseb y gellir ei phrintio, y gallwch chi ei defnyddio ar gyfer casglu rhagor o lofnodion.

Os ydych chi wedi dewis derbyn diweddariadau, bydd rhaid i chi ddarparu cyfeiriad e-bost. Gallwch, wrth gwrs, ddewis peidio â derbyn e-byst, galwadau neu negeseuon testun ar unrhyw amser yn y dyfodol, ac ni fyddwn yn gwerthu eich manylion i unrhyw un arall. Mae manylion llawn i'w gweld yn ein polisi preifatrwydd.


Diolch yn fawr iawn i chi am gymryd yr amser i arwyddo’r ddeiseb hon.

 
Argraffwyd a hyrwyddwyd gan ac ar ran Democratiaid Rhyddfryol Ceredigion, 32 Rhodfa'r Gogledd, Ceredigion, SY23 2NF
Gwesteiwyd gan NativeSpace, 7 Royd Terrace, Hebden Bridge, West Yorkshire, HX7 7BT, nad ydynt yn gyfrifol am unrhyw ran o gynnwys y wefan.